Y Rheoleiddiwr Pensiynau sy'n rheoleiddio pensiynau sy'n seiliedig ar waith yn y DU.
Gallwch gysylltu â'n tîm cymorth i gwsmeriaid dros y ffôn ar: 0870 6063636, rhwng 9am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy e-bost: customersupport@thepensionsregulator.gov.uk
Gwybodaeth am ddefnyddio'r wefan
Y Rheoleiddiwr Pensiynau sy'n rheoleiddio pensiynau sy'n seiliedig ar waith yn y DU.
Mae Deddf Pensiynau 2004 yn rhoi cyfres o amcanion penodol i'r Rheoleiddiwr Pensiynau:
Er mwyn bodloni'r amcanion hyn, rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar gynlluniau y nodwn sy'n cyflwyno'r risg fwyaf i ddiogelwch buddiannau'r aelodau.
Byddwn hefyd yn hyrwyddo safonau uchel wrth weinyddu cynlluniau, ac yn gweithio i sicrhau bod gan y rhai sydd ynghlwm wrth redeg cynlluniau pensiwn y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol.
Cynllun pensiwn sy'n seiliedig ar waith yw unrhyw gynllun y mae cyflogwr yn ei gynnig i gyflogeion. Mae hyn yn cynnwys pob cynllun galwedigaethol, ac unrhyw gynlluniau pensiwn personol a chynlluniau pensiwn cyfranddeiliaid lle mae gan gyflogeion drefniadau talu uniongyrchol.
Y Rheoleiddiwr Pensiynau sy'n rheoleiddio pensiynau sy'n seiliedig ar waith yn y DU.
Pensiwn sy'n seiliedig ar waith yw unrhyw bensiwn - gan gynnwys pensiwn galwedigaethol, pensiwn personol a phensiwn cyfranddeiliaid - y mae eich cyflogwr yn ei gynnig i chi.
Fel rheoleiddiwr, ein nod yw annog safonau uchel o ran y modd y caiff cynlluniau pensiwn eu rhedeg. Dyma'r ffordd orau o atal problemau rhag datblygu - problemau a allai beryglu eich buddiannau pensiwn.
Rydym yn gweithio gydag ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn a rheolwyr cynlluniau (a'ch cyflogwr hefyd) i helpu i ddiogelu eich pensiwn. Os bydd problemau'n datblygu, mae gennym bwerau i unioni pethau.
Prif flaenoriaeth y Rheoleiddiwr Pensiynau yw mynd i'r afael â risgiau i fuddiannau aelodau.
Gallwn gael gwybodaeth am risgiau posibl gan yr ymddiriedolwyr, rheolwyr, cynghorwyr neu aelodau cynllun.
I fynd i'r afael â'r risgiau hyn gallwn:
Rydym yn archwilio cynlluniau pensiwn yn fanwl, yn asesu lefel y risg ac yn cymryd camau i leihau neu ddileu'r risg lle bo'r risg honno'n codi.
Dyma rai enghreifftiau o risg:
Mae'r Llywodraeth wedi sefydlu'r Gronfa Diogelu Pensiynau i helpu aelodau cynlluniau pensiwn buddiant diffiniedig cymwys (a elwir hefyd yn gynlluniau cyflog terfynol neu'n gynlluniau sy'n gysylltiedig â chyflog) os:
Yn y lle cyntaf, os hoffech gael mwy o wybodaeth am eich cynllun a'r buddiannau y gallwch eu disgwyl, dylech gysylltu ag ymddiriedolwyr neu reolwr eich cynllun pensiwn.
Os oes gennych broblem neu gwyn ynghylch eich pensiwn, dylech holi'r ymddiriedolwyr ynghylch gweithdrefn gwyno swyddogol y cynllun. (Rhaid i bob cynllun gael gweithdrefn gwyno, ac mae'n golygu bod yn rhaid iddynt ymchwilio i bob cwyn yn briodol.)